Bydd aelodau undeb Unsain sy’n gweithio i Gyngor Caerdydd yn pleidleisio ynglŷn â chynnal streic yn erbyn bwriad y cyngor i gwtogi oriau’r gweithwyr o 37 awr yr wythnos i 36.
Byddai’r newidiadau yn golygu bod gweithwyr y cyngor yn colli bron i saith diwrnod o gyflog y flwyddyn.
Mae’r cyngor yn honni y bydd yn arbed £4.4 miliwn y flwyddyn.
Mae Unsain yn dweud fod y newid yn “ymosodiad ar weithwyr” a fyddai hefyd yn golygu bod safon gwasanaethau’r cyngor yn gostwng.
Bu Unsain mewn trafodaethau gydag arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Bale, heddiw ond yn ôl yr undeb, “ni chafodd unrhyw beth cadarnhaol ei benderfynu.”
‘Ymosodiad ar weithwyr’
Dywedodd Ysgrifennydd cangen Caerdydd Unsain, Spencer Pearson:
“Nid y gweithwyr sydd i’w beio am y ffaith fod y cyngor mewn trafferthion ond eto, nhw sy’n dioddef.
“Bydd yr ymosodiad yma yn golygu colled fawr i’r gweithwyr a gostyngiad yn safon y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.
“Fe wnaeth Unsain gyflwyno cynllun i’r cyngor ym mis Ionawr a oedd yn cynnig ffordd o weithio drwy’r 12 mis nesaf, heb effeithio ar gyflogau’r gweithwyr – ond fe wnaeth y cyngor ei anwybyddu.
“Byddai streic yn achosi anghydfod mawr i wasanaethau’r cyngor ac nid ydyw’n ddewis sy’n cael ei gymryd yn ysgafn gan ein haelodau.”