Cian Ciarán
Mae ymgyrch i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn gobeithio’u bod nhw wedi taro’r nodyn iawn ar ôl i aelod un o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru ychwanegu’i gefnogaeth.
Bydd Cian Ciarán o’r Super Furry Animals yn rhoi perfformiad unawdol arbennig nos Iau yng Nghlwb Lydon Grangetown er mwyn codi arian at yr ymgyrch, gan chwarae caneuon o’i albwm diweddaraf, They Are Nothing Without Us.
Mae Ymgyrch TAG wedi bod wrthi ers naw mis yn ceisio sefydlu ysgol Gymraeg i blant yn ardal Grangetown a Thre-biwt, ac fe ddywedodd Is-Gadeirydd TAG Sioned Mills fod Ciarán yn gerddor addas tu hwnt i’r ymgyrch.
‘Tynnu sylw at yr achos’
“Rydym ar ben ein digon bod Cian wedi cytuno i lwyfannu’r perfformiad yma i gefnogi ein hymdrechion,” meddai Sioned Mills.
“Mae’n wych bod cerddor mor adnabyddus yn fodlon rhoi o’i amser, tynnu sylw at ein hachos, a helpu i godi arian.
“Mae’n arbennig o addas ei fod yn canu casgliad o ganeuon protest sy’n herio difaterwch gwleidyddol a chorfforaethol, ac sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am ystod o bynciau.
Ry’ ni’n gobeithio ein bod ni fel ymgyrch – mewn ffordd fechan – wedi llwyddo i herio anghyfiawnder ac amryfusedd gwleidyddol ar lefel leol, a bod modd inni sicrhau canlyniad cadarnhaol i’r gymuned trwyddi draw.”
Galw am eglurdeb
Yn ymuno â Cian Ciarán ar y noson bydd cerddorion eraill gan gynnwys DJs Radio Cardiff, Cam o’r Tywyllwch, a deuawd electronica lleol, Cotton Wolf, gyda thocynnau ar werth wrth y drws o 7.30yh ymlaen.
Ond er bod Cyngor Caerdydd bellach wedi dweud eu bod am sefydlu ysgol newydd, mae’r ymgyrchwyr am barhau i godi arian tra bod ansicrwydd ynglŷn â’r cynlluniau yn parhau.
“Wrth reswm, croesawn y ffaith bod y Cyngor wedi ymrwymo i ysgol newydd, ond nid dyma’r amser i segura,” meddai Ysgrifennydd TAG Huw Williams.
“Mae plant yr ardal angen ysgol nawr, ond mae’r ansicrwydd cynddrwg ag erioed. Gwyddwn y gall y broses gynllunio greu nifer o rwystrau.
“Mae’n galondid inni felly bod gan arweinydd newydd y Cyngor, Phil Bale, hanes o gefnogi achosion sy’n gysylltiedig â’r iaith, ac edrychwn ymlaen at drafodaeth adeiladol gydag ef a’i gabinet dros y misoedd nesaf.”