Llong danfor Trident
Byddai bwriad yr SNP i gael gwared ag arfau niwclear Trident yn “gwmwl du” dros groeso rhyngwladol i Alban annibynnol, yn ôl arbenigwyr.

Mae cyn-bennaeth y llynges, Syr Mark Stanhope, ynghyd a phenaethiaid eraill o’r Fyddin a’r llu awyr, wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog Alex Salmond sy’n dweud y byddai gwahardd arfau niwclear yn “rywbeth na fyddai Nato yn ei dderbyn.”

Byddai’r Alban yn “genedl fach mewn byd ansicr” meddai’r llythyr, ac ni fyddai disgwyl i sefydliad milwrol Nato groesawu “gwlad newydd sydd wedi rhoi ymgyrch arfau niwclear Prydain mewn peryg.”

Ychwanegodd Mark Stanhope y byddai nifer o’r 7,000 o bobol sy’n gweithio yng nghanolfannau milwrol Faslane a Coulport yn colli eu swyddi.

Roedd hefyd yn beirniadu papur gwyn yr Alban ar annibyniaeth, a gafodd ei gyhoeddi’r llynedd.

Pe bai’r Alban yn pleidleisio tros annibyniaeth, fe allai llongau tanfor Trident gael eu symud o’u canolfan yno.