Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl i angor enfawr 400 cilo gael ei ddwyn o Glwb Hwylio Y Bermo.
Yn ôl yr heddlu, fe fyddai wedi cymryd offer arbenigol, cerbyd a digon o amser i godi’r angor o’i safle ac maen nhw’n apelio i’r cyhoedd am unrhyw wybodaeth er mwyn dod o hyd i’r lladron.
Dywedodd y swyddog sy’n ymchwilio i’r lladrad, Paul Duggan o Heddlu Dolgellau: “Rhywbryd ers dechrau mis Mawrth, mae lladron wedi torri i mewn i safle yng Nghlwb Hwylio Y Bermo ac wedi dwyn angor 400 cilo sy’n eiddo i GCC Maritime.
“Yn amlwg, mae’r angor yn drwm iawn ac fe fyddai wedi cymryd offer arbenigol, cerbyd a digon o amser i’w godi o’r safle.
“Byddai’r cerbyd wedi parcio yn y maes parcio cyhoeddus yn yr harbwr gerllaw felly rwy’n gobeithio bod rhywun wedi gweld y lladrad.”
Mae’r heddlu yn cynghori pobol sy’n berchen ar offer morol yn yr ardal i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgaredd amheus.