Nigel Evans
Mae dirprwy gyn-lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Nigel Evans, wedi gofyn i’r Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cartref i ail edrych ar y system o ddelio gydag achosion hanesyddol o droseddau rhyw.
Wrth siarad ar raglen Daybreak ar ITV y bore ‘ma, dywedodd na ddylai pobol ddieuog sy’n cael eu “llusgo drwy’r llysoedd” orfod wynebu “costau dinistriol”.
Roedd yr AS, sy’n enedigol o Abertawe, wedi gorfod gwario £130,000 ar amddiffyn ei hun yn erbyn cyfres o droseddau rhyw.
Mae hefyd yn mynnu hefyd ei fod am frwydro yn erbyn y newidiadau i gymorth cyfreithiol, ac yn galw ar Wasanaeth Erlyn y Goron i dalu ei gostau cyfreithiol.
Cafwyd Nigel Evans yn ddieuog o naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion ifanc yr wythnos diwethaf, a dywedodd ei fod wedi bod trwy “uffern” a hyd yn oed wedi ystyried lladd ei hun.
Cydbwysedd
Dywedodd Nigel Evans ei fod wedi gofyn i gadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz, i ail edrych ar achosion tebyg a “dod a chydbwysedd yn ôl”.
“Mae’r rhai sy’n gwneud y cyhuddiadau yn aros yn ddienw hyd heddiw,” meddai.
“Mae gen i gyfle i godi fy llais pan mae anghyfiawnderau fel hyn yn digwydd. Mae yna nifer o bobol eraill sydd wedi bod trwy uffern fel wnes i, ac rwyf am sicrhau fy mod yn defnyddio fy llais i geisio gwneud i’r pwyllgor ail edrych ar y cydbwysedd”.
Ychwanegodd Nigel Evans ei fod nawr eisiau canolbwyntio ar ddychwelyd i’w waith yn Nhŷ’r Cyffredin.