Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu hen ffatri gwneud peiriannau golchi Hotpoint ym Modelwyddan am £1.55 miliwn.

Bwriad y Llywodraeth yw ailddatblygu’r safle er mwyn creu swyddi, helpu busnesau lleol i dyfu a denu buddsoddiad newydd i’r ardal.

Mae’r safle 25 erw yn cynnwys ffatri 354,000 troedfedd sgwâr, man llwytho, ffreutur a pharc trelars.

Bydd y ffatri yn cael ei rhannu’n ddwy uned ar gyfer prosiectau ehangu neu fewnfuddsoddi. Mae potensial hefyd i ddatblygu’r parc trelars yn unedau diwydiannol llai, yn ôl y Llywodraeth.

‘Swyddi i bobol leol’

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae hwn yn ddatblygiad pwysig gan ei fod yn diogelu’r safle ar gyfer dibenion yn y dyfodol allai arwain at greu swyddi ar gyfer pobol leol.

“Er nad oes fawr o alw am ffatrïoedd mawr iawn yn yr ardal, mae yna ddiddordeb mewn eiddo llai.

“Ein hamcan pennaf yw helpu busnesau i dyfu, creu swyddi a denu buddsoddiad newydd i’r ardal. Mae gan y safle botensial fel cartref i fusnesau sydd am symud i’r ardal yn ogystal ag i gwmnïau lleol sydd am ehangu.”

Hanes

Adeiladwyd ffatri Hotpoint ar ddechrau’r 1980au ac ar ei hanterth yn 2004, roedd yn cyflogi 750 o bobl.

Cafodd ei chau yn 2009, gyda 300 yn colli’u gwaith, ac mae’r  safle wedi bod ar y farchnad ers hynny.

Pan gaewyd y ffatri roedd Indesit, perchennog Hotpoint, wedi ceisio rhoi cynllun ar waith i leihau effaith cau’r gwaith ac mae’r cwmni rŵan yn awyddus i helpu i greu swyddi newydd ar y safle.