Llong Ocean Shield a oedd wedi clywed signal wythnos diwethaf
Bydd timau chwilio yn anfon llong danfor i Gefnfor India am y tro cyntaf i chwilio am yr awyren Malaysia Airlines sydd ar goll.

Meddai Angus Houston, cyd-lynydd y timau chwilio oddi ar arfordir gorllewinol Awstralia, y bydden nhw’n lansio’r llong danfor cyn gynted ag y bo modd.

Gall llong danfor Bluefin 21 greu map sonar o’r ardal a gweld unrhyw weddillion sydd ar wely’r môr.

Daw’r datblygiad ar ôl i dimau chwilio glywed signal sy’n gyson a blwch du awyren wythnos diwethaf.

Dywedodd Angus Houston y byddai’r weithred o chwilio am yr awyren gan ddefnyddio’r llong danfor yn “broses araf a thrylwyr”.