Hampden Park yn yr Alban yn nodi 100 diwrnod cyn dechrau'r Gemau
Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £3 miliwn i fynd i’r afael ag  anghydraddoldeb mewn chwaraeon.

Mae’r corff wedi penderfynu nodi 100 diwrnod i fynd tan Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow drwy roi £1.5 miliwn o gyllid Loteri tuag at brosiectau fydd yn annog rhagor o ferched ifanc i gymryd rhan mewn  chwaraeon.

Bydd £ 1.5m pellach yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau sy’n annog mwy o bobl gydag anableddau a rhagor o blant o gymunedau difreintiedig ac o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy rheolaidd.

‘Manteision’

Dywedodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: “”Rydym am i bawb yng Nghymru i fwynhau manteision cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, beth bynnag fo’u cefndir a’u hamgylchiadau.

“Mewn blwyddyn ble mae athletwyr Cymru yn paratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, rydym yn chwilio am brosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal y grwpiau yma rhag cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon.”