Marathon Llundain
Mae dyn 42 oed wedi marw ar ôl llewygu ar linell derfyn Marathon Llundain ddoe, yn ôl y trefnwyr.
Roedd y dyn wedi cael sylw meddygol ar ôl gorffen y ras ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran Virgin Money, trefnydd y marathon: “Hoffem fynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau’r dyn.
“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda nhw ar yr adeg anodd yma.”
Nid yw enw’r dyn wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Dyma’r farwolaeth gyntaf yn y digwyddiad ers 2012 pan gafodd Claire Squires, 30, o Ogledd Kilworth, Swydd Gaerlŷr, ei tharo’n wael filltir o’r llinell derfyn a bu farw yn ddiweddarach o fethiant y galon.
Amcangyfrifir bod 36,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y ras ddoe.