Abu Hamza
Mae disgwyl i’r achos llys yn erbyn y clerigwr Mwslimaidd eithafol, Abu Hamza, ddechrau yn Efrog Newydd heddiw.

Cafodd Hamza, 55 oed, ei estraddodi o Brydain i’r Unol Daleithiau yn 2012.

Mae’n gwadu 11 o gyhuddiadau yn ymwneud a therfysgaeth gan gynnwys cadw gwystlon yn Yemen yn 1998, cefnogi al Qaida, a chynllwynio i sefydlu gwersyll i hyfforddi terfysgwyr yn Bly, Oregon.

Cafodd y clerigwr o’r Aifft ei garcharu yn y DU am saith mlynedd am gynllwynio i lofruddio ac annog casineb hiliol yn 2006. Gwnaed cais i’w estraddodi yn 2004 a chafodd ei estraddodi yn 2012 yn dilyn brwydr gyfreithiol hir.

Fe fydd y rheithgor yn cael eu dewis yn y llys ffederal yn Efrog Newydd heddiw.