Yr Arglwydd Rowan Williams
Bydd yr Arglwydd Rowan Williams yn cael ei benodi’n Ganghellor Prifysgol De Cymru mewn seremoni swyddogol heddiw.

Dyma fydd rôl gyhoeddus fawr gyntaf Rowan Williams ers iddo ymddeol fel Archesgob Caergaint yn 2012.

Yn ogystal, bydd Doethuriaethau er anrhydedd hefyd yn cael eu cyflwyno i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a hyfforddwr ti rygbi Cymru Warren Gatland yn ystod y seremoni heddiw.

Roedd Rowan Williams yn Archesgob Caergaint am 10 mlynedd ac mae bellach yn Feistr Coleg Magdalen, Caergrawnt. Mae’n olynu’r Arglwydd Morris o Aberafan fel Canghellor y brifysgol.

Dywedodd Rowan Williams bod y penodiad yn rhoi “pleser personol ac ymdeimlad o falchder tawel” iddo.