Bryn Terfel
Bangor yw’r ddinas sydd wedi bod fwyaf allweddol yng ngyrfa’r canwr Bryn Terfel.

Dyma fydd y seren opera ryngwladol yn ei ddweud mewn cyfweliad gyda Hywel Gwynfryn ar S4C nos yfory.

Mae Bryn Terfel, sydd bellach yn 48 oed, wedi canu yn nhai opera enwoca’r byd erbyn hyn ond dydi o ddim wedi anghofio ei wreiddiau.

Dywedodd Bryn Terfel bod yn fraint enfawr bod Pontio wedi penderfynu enwi neuadd yn y ganolfan gelfyddydol newydd ym Mangor ar ei ôl:

“Dw i wedi meddwl dipyn am hynny, mae cael y neuadd wedi’i henwi ar fy ôl, yn beth mawr,” meddai.

“Ym Mangor mi wnes i ran fwya’ o’r ‘arholiadau canu, fy ngwersi canu, bob un rhagbrawf yr Urdd, Eisteddfodau’r Urdd yn Neuadd PJ, cyngherddau yn Theatr Gwynedd, yn y Gadeirlan, yn Neuadd Pritchard Jones, yn Neuadd Powys, ac yn neuadd Powys mi wnes i fy record glasurol cynta’, felly ma’ Bangor fel dinas wedi rhoi mwy imi ar ddechrau’ fy ngyrfa i nac unrhyw le arall.”