Fe fydd un o fandiau pres, chwyth neu jazz Cymru £10,000 yn gyfoethocach oherwydd cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal gan S4C.

Bydd y bandiau yn mynd benben am y teitl Band Cymru 2014, a phanel o arbenigwyr rhyngwladol wrth y llyw i benderfynu pwy sy’n deilwng o’r wobr hael.

Mae’r rhaglen yn cael ei ffilmio yn Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci, a’r bandiau sydd yn y frwydr yw:

Band Arian Llaneurgain

Band Mawr Teddy Smith

Band Tref Tredegar

Band Tylorstown

Chamber Winds

Band Jas y Brifddinas

Band Temperance Tongwynlais

Band Jazz Tryfan

Pres Symffonig Coleg Brenhinol Cymru

Band Mawr Liberty

Band Clwb Rygbi James Clark

Band y Cory

‘Tynnu sylw dros y ffin’

Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen, ac un o drefnwyr y gystadleuaeth, Hefin Owen: “Trwy gynnal Band Cymru, a’i darlledu ar S4C, y gobaith yw denu sylw ehangach at draddodiad sy’n ffynnu yng Nghymru, ymhlith y to hŷn a phobl ifanc.”

Bydd Band Cymru yn dechrau nos Sadwrn 26 Ebrill am 9.00 yr hwyr.