Karen Williams a gafodd ei ffilmio ar gyfer y ffilm ddogfen O'r Galon: Karen
Bu’n wythnos lwyddiannus i ddau o raglenni dogfen Cwmni Da i wrth i ffilm ddogfen ‘O’r Galon: Karen’ a chyfres ddogfen ‘Taith Fawr y Dyn Bach’ gipio tlysau yng Ngwobrau Gwyliau Efrog Newydd.

Mae’r ŵyl yn dathlu ffilmiau a theledu o bob math mewn dros hanner cant o wledydd gan gynnwys Cymru.

Llwyddiant

Enillodd cyfres ‘Taith Fawr y Dyn Bach’ Wobr Arian y Byd, gyda’r rhaglen ddogfen yn dilyn James Lusted ar daith ar hyd a lled Cymru i gwrdd â nifer o bobl sydd ag anabledd.

Mae gan Lusted ffurf brin o gorachedd, ac wrth sôn am y gyfres dywedodd mai’r pwrpas oedd rhoi llais i bobl ag anableddau.

“Y peth mwyaf sydd wedi aros efo fi ers gwneud y gyfres ydi bod pawb yn gallu gwneud rhywbeth, a bod angen gweld y person cyn yr anabledd,” meddai James Lusted.

Cyfres arall gan Cwmni Da a enillodd Wobr Efydd y Byd oedd ‘O’r Galon: Karen’, ffilm ddogfen a ddilynodd Karen Williams yn ystod dyddiau olaf ei bywyd wrth iddi ymladd yn erbyn cancr.

Ac fe ddywedodd Meinir Gwilym cynhyrchydd ‘O’r Galon: Karen’, ei bod hi a theulu Karen Williams yn rhannu’r hapusrwydd o weld y rhaglen ddogfen yn cael cydnabyddiaeth.

“Rydw i’n falch iawn bod y rhaglen wedi ennill y wobr hon,” meddai Meinir Gwilym. “Dwi’n gwybod y bydd teulu Karen yn falch hefyd. Ei phersonoliaeth ddisglair hi yw prif gryfder y ffilm.”