Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe
Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wedi derbyn grant o £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer dathliadau canmlwyddiant ei enedigaeth eleni.
Dywedodd y Ganolfan y byddai’r grant yn galluogi ehangiad i’r Arddangosfa Dylan Thomas cyfredol, gan ganiatáu i arteffactau unigryw, sydd wedi cael eu cadw mewn archifau hyd hyn, gael eu harddangos.
Bydd casgliad o nodiaduron Dylan Thomas hefyd yn dychwelyd ar fenthyg i Gymru am y tro cyntaf ers iddo eu gwerthu i Brifysgol Buffalo, Efrog Newydd yn 1941, lle fu farw’r bardd yn ddiweddarach.
Bu Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau’r arian ar gyfer y prosiect, ac fe ddywedodd y byddai’r grant yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i allu dysgu am waith ei thaid.
“Mae’r Ganolfan yn cartrefu’r casgliad mwyaf yn y byd o ddeunydd â chysylltiad gyda Dylan Thomas ac mae’n gasgliad sy’n cynnig cipolwg unigryw am wir gymeriad fy nhaid,” meddai Hannah Ellis.
“Rwyf eisiau cynulleidfaoedd, ifanc a newydd, gael y cyfle i ddysgu a darganfod barddoniaeth, storiâu a dramâu fy nhaid. Fe fydd y grant yma gan CDL yn tynnu’r arddangosfa i’r ganrif bresennol ac yn ei gyflwyno i genedlaethau newydd i fwynhau.”
Carter yn cefnogi
Ganwyd Dylan Thomas yn Abertawe yn 1914 a bellach mae’n cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf eiconig Cymru drwy’i gerddi enwog gan gynnwys Fern Hill, The Hunchback in the Park a Do Not Go Gentle Into That Good Night.
Bu farw yn 1953 yn 39 mlwydd oed, ac yn fe agorwyd Canolfan Dylan Thomas yn swyddogol yn 1995 gan gyn Arlywydd yr UDA, Jimmy Carter.
Ychwanegodd Carter ei lais at y rheiny fu’n croesawu grant diweddaraf y gronfa loteri, gan ddweud ei fod wedi edmygu gwaith Dylan Thomas erioed.
“Dylan Thomas yw un o feirdd gorau’r ganrif ddiwethaf ac rwyf wedi teimlo cysylltiad personol gyda’i farddoniaeth a’i lenyddiaeth erioed,” Jimmy Carter.
“Rwyf wedi dadlau dros bwysigrwydd coffau ei fywyd a’i waith a gan fy mod wedi agor y ganolfan bwysig hon yn Abertawe, mae’n wych gweld bydd yr arian hwn yn sicrhau bod Canolfan Dylan Thomas yn gallu parhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod.”