Amgueddfa Roald Dahl yn Sir Buckingham
Mae amgueddfa sy’n arddangos gwaith yr awdur plant o Gaerdydd, Roald Dahl, wedi ennill buddugoliaeth yn erbyn y dyn treth.

Roedd penaethiaid Amgueddfa a Chanolfan Stori Roald Dahl – sydd wedi ei leoli yn y pentref ble roedd yr awdur yn byw yn Swydd Buckingham – wedi cwyno bod Cyllid a Thollau EM wedi codi’r dreth anghywir arnyn nhw am y £500,000 a dalwyd ar ail-ddylunio ac adnewyddu’r amgueddfa.

Er bod tribiwnlys treth wedi diystyru nifer o geisiadau oedd yn ymwneud â thaliadau eraill, daeth y tribiwnlys i’r penderfyniad bod y TAW ar arian a wariwyd ar greu llyfr am gwt ble roedd Roald Dahl yn sgwennu wedi cael eu dosbarthu’n anghywir.

Cafodd Roald Dahl ei eni yn Llandaf  yng Nghaerdydd yn 1916 a bu farw yn 1990 yn 74 oed.