Dylan Thomas
Fe fydd prosiect celf yn cael ei lansio yn Abertawe ddydd Sadwrn, gyda’r ffocws eleni ar ganmlwyddiant geni’r bardd Dylan Thomas.

Ymhlith y 24 o weithiau fydd yn cael eu harddangos mewn amryw leoliadau ar draws y ddinas, mae 13 o weithiau newydd sbon wedi cael eu comisiynu.

Bydd 11 o weithiau’n cael eu cadw yn Abertawe’n barhaol.

Bellach, Celf ar draws y Ddinas yw’r digwyddiad celf cyhoeddus mwyaf yng ngwledydd Prydain, ac mae’n cael ei lansio yn Amgueddfa’r Glannau am 6.30yh ddydd Sadwrn.

Mae tri o’r gweithiau’n dathlu cyfraniad y bardd Dylan Thomas i ddinas ei febyd, gan gynnwys cartŵn gan Jon Burgerman yn seiliedig ar ei farddoniaeth.

Yn ogystal, mae’r bardd Rachel Trezise wedi cyfansoddi pum darn o lên-micro fydd yn ymddangos ar fatiau cwrw mewn tafarndai ar draws y ddinas.

Ymhlith y darnau mwyaf uchelgeisiol, mae Rhian Edwards wedi mynd ati i gyfansoddi ‘Cerdd Fawr Tawe’, sef cerdd ar-lein y bydd modd i gyfranwyr ychwanegu ati trwy gyfrwng y we.

Fe fydd cyfres o arddangosfeydd am y Rhyfel Byd Cyntaf a straeon i blant yn ysbrydoliaeth ar gyfer gweithdai arbennig i blant, gan gynnwys gorymdaith trwy Abertawe ar Fai 10.

Bydd cyfres o weithiau eraill yn ymddangos yn y Marina a Bae Abertawe.