Ar ôl apêl i ddod o hyd i awdur un o’r gweithiau oedd yn cystadlu am y Fedal Ddrama eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i ‘Ap Emlyn’.

Roedd cais ‘Ap Emlyn’ wedi dod i law heb fanylion cyswllt, felly petai’r gwaith yn dod i’r brig, ni fyddai modd ei wobrwyo ef neu hi.

Roedd Elen Ellis, trefnydd yr Eisteddfod, yn gofyn i’r awdur anfon ei h/amlen dan sêl i Swyddfa’r Eisteddfod gyda’r manylion cyswllt angenrheidiol, gan gynnwys enw’r ddrama a lleoliad yr olygfa gyntaf ar flaen yr amlen.

Dywedodd y Steddfod mewn datganiad ar eu cyfrif trydar: “Diolch i bawb am eu cymorth ddoe a heddiw. Rydan ni newydd glywed gan ‘Ap Emlyn’ ac mae’r amlen dan sêl ar ei ffordd!”