Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhyddhau apêl i un o’r bobl sydd wedi cystadlu yng nghystadleuaeth drama hir a’r Fedal Ddrama eleni i gysylltu â nhw.

Gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyfansoddiadau Eisteddfod Sir Gâr wedi pasio ers wythnos, mae’r gwaith o roi trefn ar y bwndeli o geisiadau yn mynd rhagddi.

Ond mae un cais wedi dod i law heb amlen dan sêl ac mae’r trefnwyr yn apelio ar awdur y gwaith i anfon yr wybodaeth angenrheidiol i swyddfa’r Eisteddfod cyn gynted â phosibl fel bod y gwaith yn cael ei ystyried am wobr eleni.

‘Ap Emlyn’ yw’r ffug enw a chais ar gyfer y gystadleuaeth ddrama hir a’r Fedal Ddrama yw’r gwaith sydd wedi dod i law. Ond petai gwaith ‘Ap Emlyn’ yn dod i’r brig, fyddai dim modd ei wobrwyo ef neu hi heb yr wybodaeth sydd i fod wedi’i gynnwys yn yr amlen dan sêl.

‘Cyfrinachedd’

Meddai trefnydd yr Eisteddfod genedlaethol, Elen Elis: “Mae’r gwaith yn cael ei anfon at y beirniaid yn gwbl anhysbys, ond petai gwaith ‘Ap Emlyn’ yn haeddu’r Fedal Ddrama, fyddai dim modd i ni gysylltu gydag ef neu hi heb yr amlen dan sêl, gan mai dyma’r unig le y ceir manylion cyswllt yr awdur a’i enw.

“Dim ond un amlen sy’n cael ei hagor, a’r un gydag enw’r buddugwr yw hwnnw.  Mae’r gweddill yn cael eu hanfon i’r archif heb eu cyffwrdd, ac mae cyfrinachedd yn rhan hollbwysig o’r broses.

“Rydym felly yn galw ar ‘Ap Emlyn’ i anfon ei h/amlen dan sêl atom gyda’r manylion cyswllt angenrheidiol, fel bod yr wybodaeth gennym ni os oes ei angen.  Ond rydym eisiau sicrhau mai dim ond ‘Ap Emlyn’ ei hun sy’n cysylltu, ac felly’n gofyn iddo ef neu hi gynnwys enw’r ddrama a lleoliad yr olygfa gyntaf ar flaen yr amlen.  Dylid anfon yr wybodaeth i Swyddfa’r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug.

“Rydym yn gwneud yr apêl yma rŵan cyn i’r gwaith gael ei anfon at y beirniaid, fel bod ‘Ap Emlyn’ yn cael yr un cyfle a chwarae teg â phob cystadleuydd arall.  Rwy’n gobeithio y bydd yr awdur yn cysylltu gyda ni’n fuan iawn er mwyn i ni gael cwblhau’r broses.”

Dylai ‘Ap Emlyn’ anfon yr amlen dan sêl at Y Trefnydd, Swyddfa’r Eisteddfod, Uned 15, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1XP cyn gynted ag y bo modd.