Cefin Roberts
Llwyddodd tri o gorau Ysgol Glanaethwy i gyrraedd y brig yn rownd ragbrofol Choir of the Year 2014 ddoe.

Roedd Côr Ieuenctid Glanaethwy, Côr Hŷn Glanaethwy a Chôr Aethwy, dan arweiniad Cefin Roberts, yn cystadlu yn y digwyddiad yn Neuadd y Dref Leeds.

Meddai Cefin Roberts wrth Golwg360 bod y gystadleuaeth yn debyg i Gôr Cymru ond ar lefel Brydeinig. Mae’n cael ei gynnal pob dwy flynedd ac fe wnaeth Côr Ieuenctid Glanaethwy lwyddo i gyrraedd y ffeinal yn 2012 hefyd.

O’r tua 20 o gorau fu’n cystadlu ddoe mewn tri chategori gwahanol – categori corau plant, categori agored a chategori corau hŷn – cafodd corau Glanaethwy eu henwi’n Côr y Dydd yn y tri chategori.

Golyga hynny eu bod nhw’n mynd i’r rownd nesaf pan fydd panel o feirniaid yn gwrando ar recordiad o’r corau yn canu ddoe er mwyn penderfynu pa rai fydd yn mynd i’r rownd nesaf yn Llundain ym mis Hydref.

Meddai Cefin Roberts, cyd gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy: “Dyma’r tro cyntaf i ni fynd a’r tri chôr i gystadleuaeth. Roedd ’na bedwar llond bws, dau arweinydd a drwm!

“Fe gawsom ni lawer o hwyl yn mynd i gystadlu hefo aelodau oedd yn amrywio o fod rhwng 8 a 68 mlwydd oed. Yn rhyfedd, y côr oedolion yw’r rhai mwyaf dibrofiad mewn cystadlaethau a ’da ni wastad yn chwilio am ragor o aelodau – yn enwedig pobl sy’n fodlon gweithio’n galed yn ogystal â mwynhau oherwydd ein bod ni’n gôr sydd isio mynd i berfformio a chystadlu.

“Mi fydd y côr yn mynd i’r Ŵyl Ban Geltaidd  y mis yma hefyd felly fydd hwnna’n brofiad arall.”