Fe fydd Ysgol Llanddona yn Ynys Môn yn cau yn ddiweddarach eleni.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynllun Cyngor Sir Ynys Môn i gau’r ysgol sydd â 10 o ddisgyblion yn unig.
Dydy’r ysgol ddim yn disgwyl i’r nifer godi lawer iawn uwch.
Bydd y disgyblion yn cael eu symud i Ysgol Llangoed ym Miwmares, ac fe fydd dalgylchoedd y ddwy ysgol yn uno.
‘Tristwch mawr’
Mewn datganiad, dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir a’r deilydd portffolio Addysg, Ieuan Williams mai “gyda thristwch mawr” y daethon nhw i’r penderfyniad.
Ond ychwanegodd fod “rhaid i ni weithredu er lles buddiannau’r Ynys gyfan”.
“Mae niferoedd disgyblion yn disgyn ac mae’r llefydd gweigion uchel mewn amryw o’n hysgolion a ni all y sefyllfa bresennol barhau.
“Mae llefydd gweigion yn faich ariannol sylweddol ar yr Awdurdod a’n gallu i allu darparu addysg o’r safon gorau ar draws yr holl Sir.”
‘Penderfyniadau caled’
Yn ôl Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Môn, Dr Gwynne Jones, mae’r Awdurdod Addysg yn colli tua £400,000 y flwyddyn yn sgil llefydd gweigion mewn ysgolion cynradd.
Dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau caled ynglŷn â rhesymoli ysgolion a dyfodol darpariaeth addysg i’r dyfodol yn disgyn ar awdurdodau lleol.
“Mae gennym ddyletswydd i greu darpariaeth addysg ar gyfer yr 21ain ganrif, a fydd yr arian yr ydym ei angen i gyflawni hyn ddim ar gael oni bai ein bod yn ymafael yn y ddraenen ac ymateb i’r broblem o lefydd gweigion.”