Parc yr Arfau
Yn ôl adroddiadau, fe fydd cwmni BT Sport yn noddi Parc yr Arfau y tymor nesaf fel rhan o gytundeb tair blynedd.
Mae’n golygu y bydd cartref rhanbarth y Gleision yn newid ei enw i Barc yr Arfau BT Sport.
Bydd y cwmni darlledu hefyd yn noddi crysau tîm y brifddinas.
Ar ddiwedd y cytundeb, fe fydd opsiwn o’i ymestyn am ddwy flynedd arall.
Gallai cwmni BT Sport hefyd noddi crysau holl ranbarthau eraill Cymru y tymor nesaf pe baen nhw’n dod i gytundeb.
Maen nhw eisoes yn noddi Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr, ac mae disgwyl iddyn nhw ddarlledu rhai o’r gemau yng Nghwpan Ewrop y tymor nesaf.
‘Enw Cymraeg’
Cafodd y newyddion am newid enw’r stadiwm ei gyhoeddi gan ohebydd rygbi’r Western Mail, Simon Thomas ddoe, ac fe gyfaddefodd nad oedd e erioed wedi clywed yr enw Cymraeg ‘Parc yr Arfau’.
Dechreuodd y drafodaeth wedi i Rhys ap Trefor drydar Simon Thomas yn gofyn sut fyddai enw Parc yr Arfau yn newid yn sgil y cytundeb newydd.
Ymateb y gohebydd oedd “Dim syniad. Erioed wedi clywed unrhyw un yn cyfeirio ato fel Parc yr Arfau”.
Dywedodd Rhys ap Trefor mewn trydariad arall ei fod yn “syfrdan nad yw gohebydd rygbi i bapur cenedlaethol yn ymwybodol o enw Cymraeg y cae rygbi mwyaf eiconig yng Nghymru”.
Wrth ymateb i lu o negeseuon ar y wefan gymdeithasol, dywedodd Simon Thomas fod y ddadl yn “rhwyg rhwng siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg” ac nad oedd yn “fater mawr” nad oedd yn gwybod yr enw Cymraeg.
Mynegodd ei edmygedd o’r sylwebydd Huw Llywelyn-Davies, ond ychwanegodd ei fod yn gwrando ar sylwebaethau Saesneg trwy’r botwm coch ar S4C.
Awgrymodd Rhys ap Trefor mai’r broblem yw’r “ffaith nad yw ein gwasg genedlaethol yn cydnabod iaith ein cenedl”.
Erbyn diwedd y drafodaeth, roedd Simon Thomas yn ymateb i rai o’r negeseuon gydag ychydig o eiriau yn Gymraeg.