Wrecsam 0–1 Grimsby

Colli o gôl i ddim fu hanes Wrecsam nos Fawrth wrth i Grimsby ymweld â’r Cae Ras yn Uwch Gynghrair Skrill.

Rhoddodd Paddy McLaughlin yr ymwelwr ar y blaen wedi dim ond un munud ar ddeg gydag ergyd droed dde wedi i Ross Hannah ddod o hyd iddo ar ochr y cwrt cosbi.

Johnny Hunt gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf yn y pen arall ond peniodd yn syth at James McKeown yn y gôl i Grimsby.

Daeth y Dreigiau yn nes yn yr ail gyfnod methodd Joe Anyinsah, Hunt a Joe Clarke i gyd ddod o hyd i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn yr ail safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres gyda dim ond pum gêm ar ôl.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Livesey, Wright, Ashton, Anyinsah, Carrington, Harris, Hunt, Keates, Clarke, Bishop (Ormerod 81′)

Cerdyn Melyn: Wright

.

Grimsby

Tîm: McKeown, Hatton, Boyce, Pearson, Thomas, McLaughlin, Rodman, Disley, Thanoj, Hannah (Jennings 75′), John-Lewis (Tounkara 89′)

Gôl: McLaughin 11’

Cerdyn Melyn: Hatton

.

Torf: 2,019