Vincent Tan
Mae galwadau o’r newydd ar berchennog dadleuol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ddod i drafod â’r ffans heddiw, yn sgil ymchwiliad i’w gefndir ym Malaysia.

Heno, fe fydd rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar yn honni bod Vincent Tan wedi ei gysylltu â honiadau o lygredd yn ôl yn ei famwlad – er fod Twrnai Cyffredinol Malaysia wedi penderfynu nad oedd digon o dystiolaeth i ddod ag achos llys, mae gwleidyddion lleol yn dweud mai achos cyfreithiol yw’r unig ffordd i setlo’r mater.

Mae’r rhaglen yn datgelu honiadau fod Vincent Tan wedi bod ynghlwm ag ymdrechion i reoli penodiad prif farnwyr y wlad yn 2008. Roedd gwrthblaid wedi cyhoeddi ffilm gudd o sgwrs ffôn gyda chyfreithiwr oedd yn gysylltiedig â Vincent Tan.

Comisiwn Brenhinol

Yn sgil yr honiadau, cafodd Comisiwn Brenhinol ei ffurfio i ymchwilio i’r pryderon a bu raid i Vincent Tan roi tystiolaeth..

Gwadu’r honiadau yn ei erbyn wnaeth yntau, gan godi amheuon am ddilysrwydd yr alwad ffôn a mynnu na fu trafod rhyngddo fe a’r cyn-Brif Weinidog, Mahatir Mohammad, ynglŷn â phenodi barnwyr.

Yn eu hadroddiad, dywedodd y Comisiwn Brenhinol bod digon o dystiolaeth i awgrymu bod cyfreithiau wedi cael eu torri a bod angen ymchwiliad pellach i chwe unigolyn, gan gynnwys Vincent Tan.

Yn y diwedd dywedodd y Twrnai Cyffredinol fod dim digon o dystiolaeth i fynd â’r achos i lys a chafodd neb eu cyhuddo o unrhyw drosedd.

‘Siomedig’

Mae’r Byd ar Bedwar wedi bod i Malaysia i siarad gydag un o’r Comisiynwyr, yr Athro Khoo Kay Kim. Yn ôl yr Athro, mae’n “siomedig” nad oedd y Twrnai Cyffredinol wedi mynd â’u hargymhellion nhw ymhellach.

“Doedden ni’n methu penderfynu os oedd rhywun yn euog neu’n ddieuog,” meddai, “dim ond llys fyddai wedi gallu gwneud hynny, wedi i’r holl dystiolaeth gael ei brofi.”

Dywedodd y Comisiynwyr bod tystiolaeth yno i awgrymu bod deddfau wedi cael eu torri. “Mae achos digonol i alw ar y Ddeddf Atal Llygredd 1961, y Ddeddf Broffesiynol Gyfreithiol 1976, y ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1972, a’r Cod Cosbi yn erbyn rhai o’r prif unigolion oedd ynghlwm ag e.”

“Mae’n benderfyniad cywilyddus… Y cyfan roedd yn rhaid iddo fe [y Twrnai Cyffredinol] ei wneud oedd cyfrannu’r elfennau olaf at yr ymchwiliad. Dw i’n meddwl y dylai’r unigolion fod wedi cael eu cyhuddo mewn llys,” meddai Sivarasa Rasiah, un o aelodau seneddol yr wrthblaid.

‘Sibrydion’

Nôl yn ne Cymru, mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd, Tim Hartley,  yn dweud ei fod wedi ei “synnu” gan ganfyddiadau’r Byd ar Bedwar.

“Mae sibrydion mawr wedi bod ynglŷn â chefndir Vincent Tan, ond does neb wedi dangos unrhyw dystiolaeth,” meddai. “Mae’n siom nad aeth y llysoedd ym Malaysia at wraidd yr honiadau hyn, ac na chafodd Vincent Tan brofi ei ddieuogrwydd, gan gau pen y mwdwl ar y sibrydion.”

‘Angen tawelu meddyliau’

Mae’r Aelod Cynulliad, a pherchennog tocyn tymor Dinas Caerdydd, Leighton Andrews, wedi galw ar berchennog y clwb i siarad â ffans a thawelu eu meddyliau nad oes sail i’r sibrydion.

“Mae’n bwysig bod Vincent Tan yn ymateb. Fe fyddwn i’n hoffi gwybod mwy am hyn, ac fel cefnogwyr mae’n hanfodol ein bod ni’n dysgu mwy.”

Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar sawl cais am gyfweliad gyda Vincent Tan, ond cafodd pob un eu gwrthod. Wrth iddo adael Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl gêm gartref bythefnos yn ôl, fe ddilynodd camerâu Y Byd ar Bedwar Vincent Tan a cheisio’i holi. Ond ni wnaeth unrhyw sylw, ac fe gafodd y criw eu hebrwng yn gyflym oddi yno gan ddynion diogelwch.

Bydd y stori lawn i’w gweld ar Y Byd ar Bedwar heno, 9.30pm ar S4C.