Bydd fersiwn Saesneg o Lyfr y Flwyddyn yn cael ei lansio gan y Lolfa’r wythnos nesaf a fydd yn cynnwys deunydd gwbl newydd am hanes teulu’r awdur Heini Gruffudd.
Llwyddodd ‘Yr Erlid’, sydd yn trafod hanes teulu’r awdur wrth iddyn nhw orfod ffoi o’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i gipio Llyfr y Flwyddyn y llynedd.
Fe lwyddodd y diweddar Kate Bosse-Griffiths, sef mam Heini Gruffudd, i ffoi o’r Almaen i Brydain yn 1937. Cafodd gweddill teulu Kate, serch hynny, eu herlid, gyda’i mam yn cael ei llofruddio a’i modryb yn cyflawni hunanladdiad.
Bydd A Haven from Hitler, sef yr argraffiad Saesneg o Yr Erlid, nawr yn cynnwys deunydd ‘ysgytwol’ sy’n taflu goleuni newydd ar hanes ambell aelod o’i deulu, yn ôl yr awdur.
“Ceisiodd rhai aelodau o’r teulu fod yn rhan o system y Natsïaid, ymdrechodd rhai i fyw er ei gwaethaf, ac roedd eraill yn ei gwrthwynebu’n hunanaberthol,” esboniodd Heini Gruffudd.
“Gwyddwn i chwaer fy mam, Eva, ladd ei hun er mwyn achub ei phlant drwy gael y drefn i’w derbyn hwy yn Ariaid, gan fod ei gŵr, Willibald Borowietz, yn gadfridog yn y fyddin. Pe bai Willibald wedi ysgaru Eva, byddai’r plant (tri ohonynt) wedi cael eu derbyn yn Ariaid.”
Llythyr torcalonnus Willibald
Fe ddaeth hanes y teulu i’r amlwg wrth bori drwy dros fil o ddalennau a gadwyd ym meddiant y teulu, yn llythyrau a dyddiaduron, ysgrifau a dogfennau.
Ac mae’r cynnwys newydd sydd yn y gyfrol Saesneg yn cynnwys llythyr ingol tu hwnt a ysgrifennodd Willibald ar ddiwrnod hunanladdiad ei wraig.
“Yr hyn a ddarganfuwyd ers cyhoeddi Yr Erlid oedd llythyr yn archifau’r fyddin, oddi wrth Willibald Borowietz, yn ymddiswyddo o’r fyddin er mwyn cael bywyd gyda’i deulu: roedd yntau’n fodlon rhoi’r gorau i’w yrfa er mwyn peidio â gorfod ysgaru ei wraig,” meddai Heini Gruffudd.
“Yr hyn sy’n dorcalonnus yw’r ffaith iddo ysgrifennu’r llythyr ar ddiwrnod hunanladdiad ei wraig: mae’n amlwg iddo ei ysgrifennu heb yn wybod iddi, ond yn rhy hwyr.
“Wrth gwrs, pe bai e wedi rhoi’r gorau i’w swydd, pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd i’r teulu cyfan wedyn. Fel y bu, bu farw Willibald yn America yn 1945, a lladdwyd ei fab yn ystod wythnosau cyntaf y rhyfel.
“Llwyddodd y ddwy ferch a oedd ganddynt, Wilma ac Eva Monika, i oroesi, a hwythau bellach yn ‘Ariaid’.”
Mae’r ddiweddar yn enw cyfarwydd i’r Cymry. Ar ôl ffoi i Brydain i fyw fe briododd Kate Bosse-Griffiths â’r llenor a’r ysgolhaig J Gwyn Griffiths a symud i Gymru, gan fyw yn y Rhondda, y Bala ac Abertawe.
Daeth yn adnabyddus am ei nofelau a’i storïau, yn ogystal ag am ei diddordeb mewn archaeoleg ac Eifftoleg, a magodd ddau o blant yn Gymry pybyr, sef Heini Gruffudd, awdur Yr Erlid, a Robat Gruffudd, perchennog gwasg y Lolfa.
Bydd A Haven from Hitler yn cael ei lansio yn y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe, nos Wener, 11 Ebrill am 7pm.