Y ddamwain ar yr M5 yng Ngwlad yr Haf
Bydd cwest i farwolaethau saith o bobl mewn damwain ar draffordd yr M5 yn dechrau heddiw.

Bydd Crwner gorllewin Gwlad yr Haf, Michael Rose, yn ailafael yn y gwrandawiad yn dilyn achos llys y contractiwr tân gwyllt, Geoffrey Counsell.

Bu farw saith o bobl a chafodd 52 eu hanafu pan wnaeth 34 o geir wrthdaro ar ran o’r M5 yng Ngwlad yr Haf ym mis Tachwedd 2011.

Roedd yn un o’r damweiniau gwaethaf ar draffordd ym Mhrydain.  Roedd Anthony a Pamela Adams o Gasnewydd ymysg y rhai a fu farw yn y ddamwain.

Y llynedd, cafwyd Geoffrey Counsell, oedd yn gyfrifol am arddangosfa tân gwyllt a gynhaliwyd ar yr un noson a’r ddamwain, yn ddieuog o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Clywodd Llys y Goron Bryste bod y mwg o’r tân gwyllt wedi ychwanegu at y niwl yn ystod ac ar ôl yr arddangosfa tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Taunton gan effeithio ar welededd y gyrwyr ar y draffordd.