Cofeb Hillsborough
Bydd cwest newydd i farwolaethau 96 o bobl a laddwyd yn nhrychineb Hillsborough yn dechrau heddiw.

Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Warrington, Sir Gaer, ac mae disgwyl iddo barhau hyd at flwyddyn. Heddiw mae disgwyl i’r rheithgor gael eu dewis.

Yr wythnos hon, bydd datganiadau gan y crwner a’r teuluoedd a bydd cefndir pob un o’r rhai a gafodd eu lladd yn cael eu cyflwyno i’r llys yn ystod y mis nesaf.

Yn ddiweddarach yn y gwrandawiad, bydd y rheithwyr yn ymweld â stadiwm Hillsborough yn Sheffield.

Fe ddigwyddodd y trychineb chwaraeon gwaethaf yn hanes y DU ar 15 Ebrill 1989 yn ystod rownd gynderfynol Cwpan FA pan oedd Lerpwl yn chwarae yn erbyn Nottingham Forest.

Cafodd rheithfarn o farwolaethau damweiniol yn y cwest gwreiddiol yn 1991 ei diddymu yn 2012 ar ôl i Banel Annibynnol Hillsborough gyflwyno ei adroddiad terfynol ar y trychineb yn gynharach y flwyddyn honno.