Dyfais darganfod blychau du awyrennau yn cael ei gludo gan long yr Ocean Shield o Awstralia (llun: PA)
Mae teuluoedd teithwyr a oedd ar awyren a aeth ar goll dair wythnos yn ôl yn mynnu ymddiheuriad gan lywodraeth Malaysia am y ffordd mae wedi ymdrin â’r argyfwng.

Mae rhai dwsinau o Tseineaid wedi hedfan i Kuala Lumpur, prifddinas Malaysia, lle buon nhw’n cynnal protest gyda baneri’n dweud “Mae arnom eisiau tystiolaeth, y gwir, urddas” a “Rhowch y llofrudd inni”.

Tseineaid oedd dau draean o’r 227 o’r teithwyr a oedd ar fwrdd yr awyren Malaysia Airlines a ddiflannodd yn rhywle ar ei thaith rhwng Kuala Lumpur a Beijing.

Mae eu teuluoedd yn pwyso ar i lywodraeth Malaysia fod yn fwy agored ynglŷn â’r ymchwiliad, ac maen nhw hefyd wedi cael eu cythruddo gan gyhoeddiad y prif weinidog fod yr awyren wedi plymio i gefnfor India cyn bod ganddo unrhyw dystiolaeth o hynny.

Y chwilio’n parhau

Yn y cyfamser, parhau mae’r chwilio am weddillion yr awyren.

Cafodd gwahanol ddarnau a oedd nofio ar wyneb y môr eu darganfod ddoe yn ardal y chwilio, yng nghefnfor India, tua 1,150 milltir i’r gorllewin o Awstralia.

Does dim tystiolaeth, fodd bynnag, i gadarnhau cysylltiad rhwng y rhain a’r awyren.

Mae un o longau llynges Awstralia gyda dyfais darganfod ‘blychau du’ awyrennau ar ei ffordd o Awstralia i ardal y chwilio, ac mae’n debyg o gymryd tua tridiau neu bedwar i gyrraedd yno.