Edwin Humphreys
Bydd cân newydd yn cael ei chyhoeddi ar Sul y Mamau er mwyn codi arian at Ymchwil Canser Cymru.

Cafodd ‘Cariad Mam’ ei recordio gan sacsoffonydd Bob Delyn a’r Ebillion, Edwin Humphreys, mewn  stiwdio yn ei gartref ym Mhen Llŷn, a’i wraig Einir sy’n ei chanu.

Wedi iddyn nhw golli ffrind iddyn nhw, Serian, yn 2010, y penderfynodd Edwin a ffrind arall iddo, Meical Jones, sgwennu cân yn deyrnged iddi.

“Er bod y miwsig wedi dod yn sydyn, roedd hi’n anodd cael y geiriau iawn i fynegi beth oedden ni’n teimlo, felly aeth y gân on hold,” esbonia Edwin Humphreys.

Yn ddiweddar iawn, fe wnaeth ei wraig Einir – sydd hefyd yn canu gyda Bob Delyn a’r Ebillion – sgwennu’r geiriau i’r gerddoriaeth.

Meddai Edwin Humphreys: “Wedyn dyma chwaer fy ngwraig yn tynnu’n sylw ni at y lluniau ‘selfies’ mae merched wedi bod yn ei roi ar y We i godi ymwybyddiaeth o ganser, a dyma ni’n cael y syniad o recordio hi’n iawn a thrio hel pres i Ymchwil Canser Cymru.

“Rydan ni gyd yn ‘nabod rhywun sydd yn dioddef, wedi dioddef neu wedi marw o ganser ac mae’r gân yma iddyn nhw.

“Mae’n rhaid diolch i’r holl ferched sydd wedi gadael i ni ddefnyddio’u lluniau selfie nhw yn y fideo hefyd.”

Bydd ‘Cariad Mam’ ar gael i’w lawrlwytho oddi ar itunes gan gwmni Sain ddydd Sul. Yn ogystal â llais Einir Humphreys mae Catrin Fflur hefyd yn canu ar y gân, sef chwaer fach Mirain Evans o Chwilog a enillodd Cân i Gymru eleni.

Stiwdio Pant yr Hwch

Y sengl Sul y Mamau yw’r ail beth i Edwin Humphreys ei recordio yn ei stiwdio “fach, gartrefol”. Er mai defnyddio’r stiwdio i roi gwersi piano a sacsoffon mae o fel arfer, yn ddiweddar, mae wedi bod yn recordio mwy. Er hynny, dim bandiau arferol mae o’n recordio yn y stiwdio.

“Wnes i recordio Côr Aelwyd Chwilog jyst cyn Dolig a wnaeth hynny droi allan yn neis a rhoi hyder i fi wneud mwy o bethau,” meddai.

“Dw i hefyd ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhywun i greu fersiwn Gymraeg o mindfulness therapy – math o meditation therapy sydd wedi cael ei gynllunio i dawelu rhywun a helpu gydag anxiety.

Prosiect arall hir dymor ganddo yw ‘Beirdd v Dub’ ble mae o’n recordio beirdd yn adrodd eu cerddi gyda cherddoriaeth dub yn gefnlen iddyn nhw.

Y fideo – http://www.youtube.com/watch?v=5U2jKLLwME8