Mae gwleidyddiaeth Cymru ‘yn ddiflas braidd’, ac os ydy’r Blaid Lafur am danio diddordeb y bobol yn ei Llywodraeth bydd yn rhaid iddi gynnal dadleuon polisi yn gyhoeddus.

Dyna farn Cadeirydd y Comisiwn fu’n edrych ar sut mae Cymru yn cael ei hariannu.

Mewn ysgrif ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig mae Gerald Holtham yn dweud bod aelodau Llywodraeth Lafur y Bae yn gallu chwarae’n saff ac osgoi cael eu holi ar deledu am bynciau anodd, a hynny oherwydd bod y blaid mor gryf yng Nghymru.

Ond mae Holtham yn dadlau y byddai gwaith y Llywodraeth yn haws pe baen nhw’n trafod eu polisïau yn gyhoeddus, ac yn cael y cyhoedd i ddeall yr anawsterau maen nhw’n eu hwynebu.

‘Dychmygwch pe bae Gweinidog [y Llywodraeth] yn dod ymlaen [ar y teledu] a dweud “Rydan ni’n datrys A a B ond rydw i wedi cyrraedd pen fy nhennyn dros C; nid yw ein polisïau i weld yn gweithio ac mae syniadau’r gwrthbleidiau yn dda i ddim hefyd”. A fyddai ef neu hi yn destun gwawd neu a fyddai pobol yn meddwl eu bod yn clywed rhywbeth gonest gan wleidydd – a’u parchu nhw’n fwy?’

Aiff Gerald Holtham yn ei flaen i alw am newid diwylliant gwleidyddol Cymru – er mwyn i’r Cymry fedru uniaethu mwy gyda’u Llywodraeth – a hynny wrth i’r Blaid Lafur yn anghytuno a dadlau’n gyhoeddus ynghylch eu polisïau.

Bu’r ffrae ddiweddar rhwng Ann Clwyd a Carwyn Jones dros y Gwasanaeth Iechyd yn esiampl prin o gyffro gwleidyddol.