Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn diffodd pob golau yn y Senedd am awr nos fory.
Byddan nhw’n diffodd y goleuadau rhwng 8.30 a 9.30 er mwyn dangos cefnogaeth i Awr Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd.
Bob blwyddyn mae’r World Wildlife Fund (WWF) yn trefnu’r Awr Ddaear i dynnu sylw at y defnydd o ynni drwy annog unigolion a sefydliadau i ddiffodd pob golau am awr.
Dywedodd Peter Black AC, comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru a’r byd ehangach yn fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar.
“Dyna pam y cafodd yr amgylchedd ei roi wrth wraidd y gwaith o ddylunio’r Senedd, ac mae nifer o nodweddion gwyrdd arloesol yn rhan ganolog o’r adeilad.
“Felly, rydym yn falch iawn o gefnogi digwyddiad Awr Ddaear WWF, a hoffwn annog pawb ledled Cymru i ddangos eu cefnogaeth, os gallant, drwy ymuno â ni gan ddiffodd eu goleuadau nos Sadwrn.”
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi Awr Ddaear WWF. Ers 2008, mae’r Cynulliad wedi lleihau 35% ar ei ôl troed carbon.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei bod hi’n falch o gael cefnogi Awr Ddaear ond ychwanegodd bod “llawer o waith i’w wneud eto yn y maes hwn”.