Maes Awyr Caerdydd
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi croesawu’r datblygiadau diweddar ym Maes Awyr Caerdydd.

Mae nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr wedi codi 9% ers i Lywodraeth Cymru ei brynu.

Bellach, mae teithiau ar gael o’r maes awyr i leoliadau newydd, ac mae cwmni awyr newydd wedi’i sefydlu.

Fe fydd Carwyn Jones yn teithio o Gaerdydd i’r gogledd heddiw.

‘Gwella cyfleusterau’

Mae’r gwaith o wella gwasanaethau’r maes awyr eisoes wedi dechrau, gyda chyflwyno gwasanaeth bws newydd, ac mae cyfleusterau’r maes awyr wedi gwella yn sgil buddsoddiad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Ymhlith y gwelliannau eraill mae ardal ddiogelwch newydd sbon fydd yn agor cyn tymor yr haf.

Mae’r cyfleusterau newydd hefyd yn cynnwys gatiau diogelwch lle gall teithwyr ddefnyddio cerdyn er mwyn cyflymu’r broses o gael mynediad i’r maes awyr, ac mae gan y maes awyr sganiwr cyrff newydd.

‘Gwella profiad pobol’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Fe wnaethon ni fuddsoddi yn y maes awyr hwn gan ein bod ni’n credu ei fod yn borth i Gymru, sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi.”

Ychwanegodd ei fod yn falch bod nifer y teithwyr wedi cynyddu 30% ym mis Chwefror o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yn ystod ei ymweliad, mae disgwyl iddo gyhoeddi na fydd ffi bellach am ollwng a chasglu teithwyr, ac fe fydd gwasanaeth rhyngrwyd diwifr a throlis rhad ac am ddim.

“Mae bodlonrwydd cwsmeriaid yn hanfodol os ydyn ni am gyrraedd ein targedau uchelgeisiol i weld nifer y teithwyr yn parhau i godi, a dyna pam ein bod ni’n buddsoddi er mwyn gwella profiad pobol yn ystod eu hamser yn y maes awyr.”