Nigel Evans
Mae dyn sy’n honni iddo gael ei dreisio gan gyn-Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin Nigel Evans wedi dweud nad ydi o’n dweud celwydd er mwyn “achub ei gydwybod”.

Ag yntau’n rhoi tystiolaeth am trydydd diwrnod heddiw, fe wnaeth y dyn wadu ei fod wedi cael rhyw cydsyniol gydag Evans.

Ond ychwanegodd mai beth oedd o’n ei ddifaru oedd y llwfdra wnaeth arwain at ddarganfod ei hun yn y fath sefyllfa, meddai.

Mae’r dyn, sydd yn ei 20au cynnar, yn honni iddo ddeffro a darganfod Nigel Evans, 56, yn gorwedd arno a’i fod wedyn wedi cael ei dreisio gan yr Aelod Seneddol.

Honnir i’r ymosodiad ddigwydd ar ôl i’r dyn fynd i ginio yng nghartref Evans yn ei etholaeth yn Ribble Valley yn Swydd Gaerhirfryn.

Clywodd Llys y Goron Preston yr wythnos hon nad oedd y dyn eisiau cysylltiad rhywiol gydag Evans, ond ei fod wedi mynd i’r gwely gydag ef ar ôl cael ei “hebrwng” i’w ystafell wely.

Bydd yr achos yn parhau ddydd Llun.