Mae dyn 28 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff David Alun Lewis gael ei ddarganfod yn ardal Grangetown o Gaerdydd.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad ddienw tua hanner nos, nos Fercher a dod o hyd i’r corff yn yr Afon Taf o dan Bont Ffordd Penarth ychydig gannoedd o lathenni yn is na Stadiwm y Mileniwm.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel llofruddiaeth ac mae ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Dywedodd ei rieni, Hetty a Glyndwr Lewis, mewn datganiad: “Mae hyn mor drist. Roedden ni’n caru David gymaint, a ni fydd ein bywydau ni fyth yr un fath eto. Allwn ni ddim coelio bod y fath beth wedi digwydd i’n mab.”

Apêl

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth gan dystion a oedd yn yr ardal yn Grangetown rhwng tua 7:45 a 11:45 yr hwyr nos Fercher.

Hefyd maen nhw eisiau clywed gan bobol a welodd David Alun Lewis, 45 mlwydd oed, yn yr oriau cyn hynny – roedd yn ddyn gwyn, yn gwisgo jîns glas golau, anorac las tywyll a chap pêl fas golau gyda’r geiriau ‘cross hatch’ arno.

Mae’n bosib fod ganddo holdall du yn ei feddiant hefyd.

Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: “Roedd David Alun Lewis yn byw gyda’i rieni yn Ystrad Mynach ond o bryd i’w gilydd byddai’n ymweld â Chaerdydd ac weithiau’n aros yng Nghanolfan Huggard.

“Mae ei rieni’n amlwg wedi cael eu heffeithio gan yr hyn sydd wedi digwydd i’w mab ac maen nhw wedi ei ddisgrifio fel dyn da, deallus iawn a cherddor talentog.

“Er bod unigolyn wedi cael ei arestio ac yn parhau i fod yn y ddalfa, yr ydym yn parhau i apelio am dystion.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i ffonio’r ystafell ymchwiliad yn gyfrinachol ar 02920 571 530, Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 1400093541.