Andy Powell ar y llwybr tarw
Mae gwraig seren rygbi wedi rhoi ei siwt briodas i’w werthu am bris rhesymol iawn ar y wefan ocsiwn ebay wedi iddyn nhw wahanu.
Ymysg y pethau mae Natasha Gascoine, gwraig Andy Powell, wedi ei roi ar y wefan mae ei modrwy dyweddïo hi a’i siwt briodas o.
Mae hi hefyd wedi cyhoeddi negeseuon awgrymog oedd o wedi ei anfon ati hi ar y wefan ryngweithio gymdeithasol, Twitter.
Dim ond ers naw mis oedd y ddau wedi bod yn briod cyn gwahanu ym mis Ionawr. Mae Natasha Gascoine wedi cyhuddo’r chwaraewr rygbi o fod yn dwyllwr a chelwyddgi cyn rhoi’r eitemau ar werth.
Mae ei modrwy dyweddïo ar gael i’w brynu am £10,000 ac mae hi hefyd yn gwerthu ei ffrog briodas am £500. Dyw pris siwt briodas Andy Powell ddim ond wedi cyrraedd £21 ar hyn o bryd.
Top y Llewod
Mae crys rygbi tîm Wigan Warriors a wisgodd Powell hefyd ar werth yn ogystal â thop y bu’n ei wysgo tra ar daith gyda’r Llewod. Mae cyfanswm o 27 o eitemau ar werth ar hyn o bryd.
Dywedodd Natasha Gascoine y byddai’n rhoi’r arian sy’n cael ei godi o werthu’r eitemau i achosion da.
Cafodd Powell ei ryddhau gan glwb rygbi’r gygnhrair Wigan Warriors ym mis Ionawr ar ôl iddo chwarae dim ond pum gêm i’r tîm ers iddo symud o rygbi’r undeb.
Roedd Andy Powell wedi chwarae i’r Gleision, Wasps a Sale Sharks cyn hynny yn ystod ei yrfa ac enillodd 23 o gapiau i Gymru a theithio De Affrica gyda’r Llewod yn 2009.
Ond mae hefyd yn adnabyddus am ei drafferthion oddi ar y cae. Cafodd ei wahardd rhag chwarae yn 2011 wedi cythrwfl mewn tafarn ac yn 2010 cafodd ei wahardd rhag gyrru am 15 mis wedi iddo ddwyn a gyrru cert golff ar hyd yr M4 am 5:30 yn y bore.