Mae S4C wedi gwneud yn glir na fydd swyddi’n cael eu colli pan fyddan nhw’n symud eu pencadlys i Gaerfyrddin.

Roedd stori yng nghylchgrawn Golwg wedi camddehongli rhai o’r datganiadau a wnaed adeg cyhoeddi bod pencadlys y sianel yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn 2018

Mae’r sianel yn dweud nad oes unrhyw fwriad i gael gwared ar swyddi ond bod yna drafodaethau’n digwydd gyda’r undebau a staff i benderfynu ble bydd rhai o swyddi’r sianel.

Fe fydd tua 55 o swyddi’n symud i Gaerfyrddin o Gaerdydd pan fydd pencadlys S4C yn gadael y brifddinas yn 2018.

Mewn datganiad ar ôl cyhoeddi mai i Gaerfyrddin yr oedd y swyddi’n mynd, fe ddywedodd y sianel fod deg swydd yn aros yng Nghaernarfon a bod tua 60 o swyddi’n weddill.

Yn ôl y datganiad: “O’r rheiny mae’n debygol y bydd nifer sylweddol yn cael eu cydleoli gyda’r BBC, yn amodol ar gyrraedd cytundeb.

“Mae union natur a niferoedd o swyddi yn cael eu trafod yn fewnol ar hyn o bryd fel rhan o’r prosiect fydd yn digwydd yn 2018.”

Roedd cwestiynau wedi codi am tua 29 o swyddi ar ôl i Gadeirydd yr Awdurdod, Huw Jones, sôn am symud 35 o swyddi technegol – yn hytrach na’r holl swyddi sy’n weddill – i safle newydd y BBC yng Nghaerdydd.

Mae’r sianel wedi pwysleisio nad oedd “ystyried niferoedd swyddi” yn golygu dileu swyddi ond yn hytrach faint fyddai’n cael eu symud i ble.

A sôn am un grŵp o swyddi yng Nghaerdydd yr oedd Huw Jones.

“O ran presenoldeb S4C yng Nghaerdydd, y bwriad yw y bydd tua 60 o swyddi’n parhau i gael eu lleoli yno,” meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis.