Bydd drama gan fyfyrwyr Ysgol y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn cael ei ddarlledu yn fwy ar wefan y Brifysgol heno.
Bydd y myfyrwyr yn perfformio’r ddrama, Barbie Caerdroia – sef addasiad Elinor Wyn Reynolds o Trojan Barbie gan Christine Evans – yn Theatr Haliwell Caerfyrddin heno, nos fory a nos Sadwrn. Dyma’r tro cyntaf i’r Brifysgol erioed ddarlledu cynhyrchiad gan y myfyrwyr yn fyw ar y We.
Ac mi fydd y ddrama yn cael ei darlledu yn fyw dros y We i America nos fory – er mwyn i’r dramodydd gwreiddiol gael gwylio’r cynhyrchiad.
Fe gysylltodd Christine Evans, sy’n wreiddiol o Awstralia ond bellach yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Georgetown yn Washington DC, gyda chyfarwyddwr y ddrama ddoe a dweud ei bod hi’n falch dros ben o glywed y bydd y ddrama yn cael ei llwyfannu yn Gymraeg.
“Dyma’r tro cyntaf i’w gwaith gael ei gyfieithu mewn unrhyw iaith,” meddai’r cyfarwyddwr Ioan Hefin.
Trwy gyd-ddigwyddiad hapus, deallodd bod gan Christine Evans waed Cymreig – roedd ei hen dad-cu wedi mudo draw i Awstralia i weithio.
Mae’r ddrama Trojan Barbie yn seiliedig ar y drasiedi Roegaidd Trojan Women gan Euripides. “Roedd edrych ar Trojan Women yn sbardun,” meddai Ioan Hefin. “Mae hon wedi ei seilio ar y ddrama ond mae hi’n gyfoes.”
Gwyliwch Barbie Caerdroia yn fyw heno ar y ddolen yma mms://mediastream.lamp.ac.uk/broadcast
Os ydych yn America, gwyliwch nos fory ar y ddolen yma http://howlround.com/tags/howlround-tv