Geraint Thomas
Bydd modd gwylio rhai o uchafbwyntiau’r beiciwr Geraint Thomas yn ystod y ras Paris-Nice mewn rhaglen arbennig ar S4C heno – gan gynnwys y ddamwain a arweiniodd at golli’i afael ar y fuddugoliaeth.

Ras aflwyddiannus oedd hi yn y diwedd i Thomas, prif feiciwr Tîm Sky yn y ras, a oedd wedi bod yn arwain ar un cyfnod ac yn ail ar ddiwrnod y ddamwain.

Pum cilomedr o’r llinell derfyn yn y seithfed cymal, ac yntau wyth eiliad yn unig y tu ol i’r arweinydd, fe gafodd Thomas wrthdrawiad â beicwyr eraill a oedd yn golygu diwedd gobeithion y Cymro o orffen fel pencampwr y ras.

Chafodd Thomas ddim niwed parhaol, ond ers hynny mae wedi cyfaddef fod y ddamwain wedi’i frifo “yn gorfforol ac yn feddyliol.”

Y rhaglen ar ras Paris-Nice ar S4C heno fydd y cyfle cyntaf i wylwyr ym Mhrydain weld uchafbwyntiau estynedig y ras.

Ac fe fydd y rhaglen yn cynnwys cyfweliad gyda Thomas yn ei gartref ym Monaco y diwrnod ar ôl y ddamwain, yn ogystal ag aelod a Chymro arall o Dîm Beicio Sky, y beiciwr o Gaerdydd, Luke Rowe.

‘Adlewyrchu diddordebau amrywiol’

“Mae ein darpariaeth chwaraeon yn esblygu ac yn ehangu i adlewyrchu diddordebau amrywiol yng Nghymru,” meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C.

“Yn ddiweddar gwelsom fod poblogrwydd beicio a gwylio rasio beic yn cynyddu, ac rydym yn falch o fedru ymateb i hyn ac i ddarlledu uchafbwyntiau un o ddigwyddiadau mwyaf a hanesyddol bwysig y calendr seiclo.”

Bydd rhaglen Geraint Thomas: Paris-Nice ar S4C nos Iau, 20 Mawrth am 9.30yh, ac fe fydd hefyd modd ei gwylio’n gydamserol ar wefan S4C.