Gwyn Parry
Mae’r actor Gwyn Parry wedi marw yn 67 oed.
Dywedodd ei asiant wrth Golwg360 y bu farw’n sydyn neithiwr yn ei gartref yng Nghaernarfon.
Roedd yn enw a wyneb cyfarwydd ar radio a theledu.
Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi blaenllaw ar S4C, gan gynnwys A470, Treflan, Porc Peis Bach 2, Llafur Cariad, Pengelli a Pobol y Cwm.
Actiodd mewn nifer o ddramâu ar Radio Cymru yn ogystal, gan gynnwys Y Streic Fawr, Cudd fy Meian, Gwylanod, Glesni, Cwacs a Dani.
Roedd hefyd yn actor ar lwyfan gyda chwmni’r Fran Wen.
Teyrngedau
Bu’r actores Sharon Morgan yn gweithio gyda Gwyn Parry ar sawl achlysur:
“Roedd o’n actor anhygoel ac yn ddyn hyfryd”, meddai.
“Weithies i lot gyda fe, wnaethon ni Under Milk Wood gyda Theatr Cymru.
“Roedd o’n ddeallus, yn ddireidus ac yn dwym galon iawn. Mae hi’n golled fawr.”
Dywedodd Rhys Mwyn ar ei gyfrif trydar:
“Newyddion trist iawn am Gwyn Parry, ffrind, cyd-weithiwr a chogydd o fri! Fydd petha’ ddim ru’n fath heb Gwyn.”
‘Cyfaill triw’
Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru Wales: “Mae’n drist iawn gennym glywed am farwolaeth Gwyn Parry. Bu’n wyneb a llais cyfarwydd ar BBC Cymru; yn gyhoeddwr ar Radio Cymru a Radio Wales ac wedi perfformio mewn nifer o ddramau radio a bu’n actio hefyd yn Pobol y Cwm.
“Roedd yn gyfaill triw iawn i’r theatr a theledu yng Nghymru ers degawdau.”
‘Un o hoelion wyth y ddrama Gymraeg’
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Tristwch mawr oedd clywed y newyddion am farwolaeth annisgwyl Gwyn Parry. Roedd Gwyn yn un o hoelion wyth y ddrama Gymraeg ers blynyddoedd lawer, yr un mor gartrefol ar lwyfan ag yr oedd ar y sgrin deledu ac yn un o’r rhai fentrodd yn gynnar i geisio gwneud gyrfa fel actor proffesiynol Cymraeg.
“Roedd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni drama S4C ers y cychwyn, gan greu cymeriadau cofiadwy mewn cynyrchiadau mor wahanol i’w gilydd â Stafell Ddirgel, Porth Penwaig, Llafur Cariad a Porc Peis Bach.
“Roedd yn gymeriad cynnes ac annwyl, gyda rhywfaint o swildod naturiol nes i rywun ddod i’w adnabod. Fe fydd yna fwlch amlwg ar ei ôl ym myd y ddrama yng Nghymru.”