Ifan Jones Evans
Y cyflwynydd radio a theledu Ifan Jones Evans fydd yn cyflwyno’r gyfres newydd o ‘Fferm Ffactor’.

Penderfynodd y gyflwynwraig Daloni Metcalfe na fyddai hi’n dychwelyd ar gyfer y gyfres newydd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i gystadleuwyr ddangos eu doniau ym myd ffermio, gan gynnwys ym meysydd gofal anifeiliaid, trin y tir, cynhyrchu bwyd a defnyddio peiriannau.

Mae’n gyfle hefyd i ddangos sgiliau’n ymwneud â rheolau’r diwydiant, a busnes a marchnata.

Cyn-Brifathro Coleg Amaethyddol Harper Adams, Yr Athro Wynne Jones a’r ffermwr Aled Rees o Aberteifi, enillydd y gyfres gyntaf, fydd yn gosod y tasgau.

Bydd enillydd y gyfres newydd yn ennill cerbyd Isuzu newydd sbon.

Mab fferm

Dywedodd Ifan Jones Evans: “Mi wnes i dderbyn yn syth! Fel rhywun sydd wedi dilyn y gyfres, roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i’w chyflwyno.”

Mae Ifan Jones Evans yn hen gyfarwydd â’r byd ffermio, yn fab fferm o Bont-rhyd-y-groes ger Tregaron.

“Dwi wedi gwylio pob un gyfres ers y gyntaf yn 2009 ac mae ffrindiau imi wedi bod ymhlith y cystadleuwyr hefyd.

“Mae’n ddigon rhwydd gwylio gartre a dweud y gallwch chi wneud yn well.

“Ond faint ohonoch chi fyddai’n gallu cwblhau’r tasgau dan bwysau yn y fan a’r lle?”

“Rwy’n gwybod bod ffermwyr i gyd yn brysur gartre ar y fferm, ond mae hwn yn gyfle i drio rhywbeth gwahanol a gweld os ydyn nhw lan i’r dasg!

“Os ydych chi’n cadw fferm ddefaid a bîff fel sy’ ’da ni, byddai’r rhaglen yn gyfle i ddysgu godro. Neu os oes ’da chi fferm odro, dyma’ch cyfle chi i drio cneifio.”

‘Ysgwydd i grio arno’

Beth, felly, fydd rôl y cyflwynydd newydd?

“Rwy’n credu bod y ffermwyr yn cael digon o amser caled gan y beirniaid, felly mae’n rhaid i fi fod yn gefnogol ac yn ysgwydd iddyn nhw grio arno, os oes angen!

“Ond, dydi hynny ddim yn golygu na fydd’a i’n tynnu arnyn nhw o dro i dro. Bydd digon o dynnu coes a digon o cheek!”

Bydd y chweched gyfres yn dechrau ar S4C yn yr hydref. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr i gymryd rhan yn y gyfres newydd yw Ebrill 4, ac mae modd gwneud cais trwy wefan S4C.