Derek Brockway
Bydd y cyflwynydd tywydd yng Nghymru a fu hefyd yn rhan o’r gyfres deledu boblogaidd Weatherman Walking, Derek Brockway, yn rhyddhau llyfr arall y penwythnos yma’n rhoi sylw i rai o’i hoff lwybrau cerdded  yn y wlad.

Yn y llyfr Great Welsh Walks mae Brockway a’i gydawdur Martin Aaron yn cyflwyno 18 o’u hoff deithiau o bob cwr o Gymru, gan amrywio o fryniau a mynyddoedd serth Eryri i lwybrau arfordirol Sir Benfro a Môn, ac o brysurdeb Bae Caerdydd i lwybrau igam-ogam Clawdd Offa.

Mae llyfr diwethaf y dyn tywydd, More Weatherman Walks, eisoes wedi cael ei hailargraffu yn dilyn galw mawr.

Ac o dan gloriau’r llyfr diweddaraf mae cyflwyniad gan Derek i bob taith, yn ogystal â map OS, cyfeirnodau grid, cyfarwyddiadau manwl a lluniau o dirnodau arbennig.

“Dw i’n gwireddu breuddwyd drwy gael gweithio fel dyn tywydd i’r BBC,” cyfaddefodd Derek Brockway. “Er fy mod i’n teithio o amgylch y Deyrnas Unedig a dramor yn rhinwedd fy swydd, Cymru yw fy nghartref, ac yn fy marn i does unlle gwell i fyw.

“Rydym ni mor lwcus fod cystal amrywiaeth i’w gael mewn un wlad fach. Gwnaethpwyd Cymru yn wlad berffaith i’w cherdded a, glaw neu hindda, mae wastad rhywle newydd i’w ddarganfod.

“Dim ond dechrau ar y daith o ddatgelu Cymru mae’r llyfr yma, ond mae’n cynnig blas o’r hyn sydd gan ein gwlad i’w gynnig.”

‘Lleoliadau dramatig’

Dechreuodd Martin Aaron wisgo ei esgidiau cerdded yn swyddogol ar gyfer y BBC yn 2009, pan ymunodd â chriw Weatherman Walking fel ffotograffydd a mapiwr, gan ysgrifennu a chyhoeddi pob taith ar gyfer y wefan swyddogol.

“Rydym ni’n llythrennol wedi teithio hyd a lled Cymru ar gyfer y gyfres deledu, a dw i’n teimlo’n ffodus iawn o gael gwneud hynny fel rhan o’m swydd.

“Mi fedra i ddweud gyda’m llaw ar fy nghalon fod yna restr hir o leoliadau dramatig a phrydferth na fuaswn i wedi ymweld â hwy oni bai am y gyfres hon.”

Bydd copïau o Great Welsh Walks, wedi’i chyhoeddi gan y Lolfa, yn y siopau erbyn dydd Sadwrn 22 Mawrth.

Deunaw llwybr Derek:

Abergynolwyn

Y Barri i Drwyn y Rhws

Blaen-y-cwm

Bae Caerdydd

Cemaes, Môn

Churchtown i Maldwyn

Cwm Ratgoed, Corris

Mynydd y Garth

Ystâd yr Hafod

Caergybi

Treffynnon i Gastell y Fflint

Lacharn

Llanberis

Afon Llwchwr

Penmaenmawr

Rhaeadr

Ysgyryd Fawr

Trefin i Bwll Deri