Colorama
Bydd setiau byw gan Llwybr Llaethog, Colorama a Keys ymysg y perfformiadau arbennig yng Ngŵyl Nyth eleni wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd am y bumed flwyddyn.
Cafodd yr artistiaid eu cyhoeddi ar raglen C2 Radio Cymru heno, gydag Y Ffug, Kizzy Crawford, Carw a Carcharorion hefyd ymysg y rheiny fydd yn perfformio.
Bydd Colorama a Keys yno’n dathlu cyhoeddi eu recordiau newydd yn ystod eu set hwy, tra bydd arloeswyr dub Cymru, Llwybr Llaethog, hefyd yn paratoi set arbennig ar gyfer y gynulleidfa.
Ac fe fydd Desert Mountain Tribe hefyd yn dod a’u cerddoriaeth seicedelia yr holl ffordd draw o Lundain i Gymru am y dydd.
Yn Porter’s yn y brifddinas fydd yr Ŵyl unwaith eto, gyda’r gerddoriaeth yn para am ddeuddeg awr o 2yp hyd nes 2yb ar ddydd Sul 25 Mai.
Ac yn ogystal â’r gerddoriaeth fe fydd arddangosfa gelf, siop recordiau, bwyd Caribïaidd, diod a’r “cwmni gorau dan haul” i’w gael yn yr ŵyl, yn ôl y trefnwyr Gwyn Eiddor ac Alun Gaffey.
Yr artistiaid fydd yn chwarae yng Ngŵyl Nyth 2014 yw: YR AYES, CARCHARORION, CARW, COLORAMA, DAN AMOR, DESERT MOUNTAIN TRIBE, Y FFUG, KEYS, KIZZY CRAWFORD, LLWYBR LLAETHOG, Y PENCADLYS, DJS NYTH.
Mae tocynnau o flaen llaw ar gael am bris gostyngol o www.sadwrn.com neu o Spillers Records Caerdydd, ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â Nyth neu Gŵyl Nyth ewch i’w tudalen Facebook neu Twitter.