Mewn dadl yn y Senedd heddiw, fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion yr arolwg sy’n cael ei chynnal yn dilyn pryderon am ganlyniadau TGAU Saesneg Iaith “annisgwyl o isel” yng Nghymru.
Ac yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT), mae angen i Carwyn Jones roi sicrwydd i bobol ifanc nad yw’r canlyniadau wedi effeithio ar eu dyfodol.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y bwrdd arholi CBAC eu bod am gynnal adolygiad mewnol ar ôl i brifathrawon ledled y wlad fynegi pryderon am ganlyniadau’r arholiad newydd, a oedd yn benodol ar gyfer disgyblion Cymru. Roedd gostyngiad o 25% wedi bod yn nifer y disgyblion wnaeth dderbyn gradd C neu uwch.
Yn dilyn hynny, cyhoeddodd holl brifathrawon ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf lythyr a oedd yn awgrymu bod eu disgyblion “yn colli ffydd yn y drefn arholiadau.”
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhuddo’r prifathrawon o godi bwganod ac mae’n dadlau nad yw’r canlyniadau yn is na’r disgwyl ar draws holl ysgolion Cymru.
‘Cwmwl o ddirgelwch’
Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg: “Er ein bod yn cefnogi’r angen i gynnal arolwg brys i’r hyn sydd wedi mynd o chwith gyda’r arholiadau TGAU Saesneg Iaith newydd, mae’n waith sy’n digwydd o dan gwmwl o ddirgelwch.
“Mae’n amser poenus a phryderus iawn i rieni, disgyblion ac athrawon ac maen nhw’n haeddu atebion.
“Ond yn hytrach na darparu gwybodaeth ddibynadwy i bobol, mae gweinidogion wedi dewis i ymosod ar yr athrawon hynny sydd wedi gweithio mor galed i geisio dysgu’r system newydd yma.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud gwybodaeth yn gyhoeddus, er mwyn helpu’r sector addysg i ddeall pam fod canlyniadau arholiadau wedi cwympo fel hyn.”
‘Angen tawelu’r dyfroedd’
Yn ôl Dr Chris Howard o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT), “Mae’n rhaid i bob plaid sylweddoli fod y ffrae hon yn dweud rhywbeth difrifol iawn am ein gallu fel cenedl ddatganoledig.
“Dyna pam fod yn rhaid i weinidogion dawelu’r dyfroedd yn gyflym.
“Dylai Carwyn Jones addo datganiad llawn cyn gynted ag y bydd ganddo’r holl dystiolaeth. Dylai esbonio yn ofalus pam ein bod yn y sefyllfa yma. Dylai roi sicrwydd i ddisgyblion, rhieni a’r cyhoedd bod y sefyllfa o dan reolaeth er mwyn i ni weithredu’n gyflym i sicrhau cysondeb o’r broses arholi.
“Yn bwysicach na dim, dylai roi sicrwydd i bobol ifanc nad ydym ni wedi effeithio ar eu dyfodol.”