Mae rheolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi datgan pryder heddiw oherwydd bod nifer yr ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn codi.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gall bywydau gael eu colli oherwydd yr ymosodiadau.
Yn y flwyddyn ariannol rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2013, roedd 12 o ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn ne Cymru. Yn y flwyddyn ariannol hon, roedd 14 o ymosodiadau wedi bod cyn diwedd mis Rhagfyr.
Mae hyn yn gynnydd o 16% mewn llai na dwy flynedd.
Meddai’r Gwasanaeth Tân fod yr ymosodiadau’n amrywio o ymosodiadau llafar a phoeri i rai mwy difrifol ble mae pobl yn taflu brics, poteli a gwrthrychau eraill at griwiau tân.
Mewn rhannau eraill o’r DU, mae ymosodiadau yn fwy treisgar gyda nifer o achosion o ddiffoddwyr tân yn cael eu saethu neu eu trywanu wrth ymateb i alwadau brys.
‘Annerbyniol’
Meddai prif swyddog tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway: “Mae’n gwbl y tu hwnt i’m hamgyffred i fod pobl yn ymosod ar ddiffoddwyr tân wrth iddyn nhw ymateb i alwadau brys a cheisio achub bywydau.
“Rydym yn cymryd unrhyw ymosodiadau geiriol neu gorfforol yn erbyn ein staff yn ddifrifol iawn. Mae’n gwbl annerbyniol ac yn tynnu sylw oddi wrth ein prif rôl o gadw’r cyhoedd yn ddiogel mewn argyfwng.
“Gallai ymosodiadau ar ein criwiau gael canlyniadau sy’n bygwth bywyd pobl sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hefyd – pobl sy’n sownd mewn tân mewn tŷ, er enghraifft.”