Llys Ynadon Gogledd Gwlad yr Haf, Weston-super-Mare
Mae disgwyl i athrawes ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o 4 drosedd rhyw yn erbyn bachgen yn ei arddegau.
Mae Kelly Ann-Marie Burgess, 26, o Gasnewydd, yng Ngwent yn wynebu pedwar cyhuddiad o weithredoedd rhywiol gyda bachgen rhwng 13 a 17 oed.
Honnir i’r troseddau ddigwydd rhwng 1 Ionawr a 28 Awst y llynedd.
Fe fydd Burgess, sydd wedi cael ei gwahardd o’i swydd yn yr ysgol, sydd heb gael ei henwi, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Gogledd Gwlad yr Haf yn Weston-super-Mare.