Mae ymchwiliad newydd wedi’i lansio i’r rheolau sy’n gwneud ymgeiswyr am sedd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn anghymwys. .
Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, a hynny yn sgîl y trafod ynghylch ethol dau ymgeisydd yn 2011. Bydd yn ystyried:
* Yr egwyddorion, y swyddi a’r cyflogaethau sy’n gwneud ymgeisydd yn anghymwys i sefyll i fod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
* Argymell rhestr newydd o swyddi a’r cyflogaethau sy’n anghymwyso ymgeisydd;
* Yr amser pryd y daw anghymwysiadau i rym;
* A ddylai’r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog?
* Unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad.
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad anfon ei sylwadau i mewn cyn Mai 1.