Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd yn ystod oriau mân bore Sul, Mawrth 16.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Mini lliw arian, a cherddwr ar Ffordd y Pîl, Porthcawl, am ugain munud i un y bore. Mae’r cerddwr wedi’i anafu’n ddifrifol.
“Fe fydden ni’n hoffi siarad ag unrhyw un a welodd y ddamwain, neu unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y gyrrwr neu’r cerddwr, neu unrhyw un oedd yn teithio ar ffordd yr A4229 tuag adeg y ddamwain,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
Fe fu’r ffordd ar gau am oddeutu tair awr tra’r oedd yr heddlu’n cynnal eu harchwiliadau, ond mae hi bellach ar agor.