Mae degau o danau gwair wedi cael eu cynnau’n fwriadol dros y penwythnos hwn, ac mae gwasanaethau achub ar eu gwyliadwraeth, yn arbennig yn y de ac yn y canolbarth.
Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe fu 32 o danau gwair ddydd Sadwrn, ac wyth achos arall o gynnau tan yn fwriadol.
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn dweud iddyn nhw fod yn ymladd fflamau a ddinistriodd bron i ddeg acer o dir yn ardal Seven Sisters.
Mae ymladdwyr tân yn ardal gogledd Cymru wedi cael eu galw allan i saith o achosion dros y Sul.