Mae Ofcom wedi penderfynu peidio â dyfarnu trwydded ar gyfer gwasanaeth teledu lleol i Fangor.

Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu Darlledu na fyddai’r cwmni tu ôl i’r cais ar gyfer Bangor yn gallu cynnal y gwasanaeth gyda’r model cyllido roedd yn ei gynnig.

Fe wnaeth cwmni Bay TV gyflwyno bid i gynnig gwasanaeth lleol ym Mangor, yr Wyddgrug ac Abertawe ym mis Ionawr, gyda’r bwriad o ddarlledu rhaglenni amrywiol ynghyd ag awr y dydd o newyddion.

Fe fyddai’r rhaglenni eraill yn cynnwys eitemau nodwedd, chwaraeon, materion celfyddydol, a rhaglenni gan fyfyrwyr prifysgol.

Un cais

Dim ond un cais ddaeth i law Ofcom am gytundeb ym Mangor.

Hyd yn hyn mae Ofcom wedi dyfarnu 25 o drwyddedau teledu lleol, gan gynnwys Caerdydd.

Dechreuodd y sianel deledu leol gyntaf ddarlledu ar DTT yn Grimsby ar 26 Tachwedd 2013.