Pencadlys presennol S4C
Fe fydd Awdurdod S4C yn cyfarfod yn ddiweddarach heddiw i drafod ceisiadau Gwynedd a Chaerfyrddin i ddenu pencadlys S4C yno.
Fe fu aelodau o’r Awdurdod yn ymweld â Chaernarfon a Chaerfyrddin ddechrau’r wythnos, er mwyn gweld beth sydd gan ymgyrchwyr i’w gynnig.
Ond does dim disgwyl penderfyniad terfynol heddiw, ac mae aros yng Nghaerdydd hefyd yn bosibilrwydd.
Fe fydd llawer o swyddi technegol yn aros yn y brifddinas beth bynnag.
Ystyried symud
Ers cyhoeddi ym mis Hydref eu bod yn ystyried symud eu pencadlys o Gaerdydd, mae S4C yn y broses o bwyso a mesur ceisiadau i adleoli i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Ond, mae hi hefyd yn bosib y bydd y pencadlys yn aros yn ei safle presennol yng Nghaerdydd os bydd hi’n rhy gostus i symud.
Mae ymgyrch Yr Egin yng Nghaerfyrddin, yn gobeithio y bydd S4C yn penderfynu symud i safle newydd ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Eu dadl nhw yw y byddai symud yno’n rhoi hwb i’r diwydiannau creadigol ac i’r iaith Gymraeg mewn ardal allweddol.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn arwain ymgyrch i ddenu’r pencadlys a thua 50 o swyddi i Ddoc Fictoria yng Nghaernarfon.
Maen nhw’n dadlau bod yr ardal yn gadarnle i’r Gymraeg ac yn ganolfan eisoes i’r diwydiant darlledu.
Pôl piniwn golwg360
Mae hanner y bobol a bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 yn ddiweddar wedi dweud eu bod nhw am weld S4C yn symud ei phencadlys i Gaernarfon.
Y dref ogleddol ddaeth i’r brig yn y pôl, gyda 49.5% o’r bleidlais, o flaen Caerfyrddin a ddenodd 32.5% o’r mil a bleidleisiodd.